SL(6)493 – Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024

Cefndir a diben

Mae Deddf Caffael 2023 (“y Ddeddf”) yn diddymu Rheoliadau caffael presennol yr UE ac yn gosod rheolau a gweithdrefnau newydd ar gyfer Awdurdodau Contractio Cymru pan fyddant yn dewis cyflenwyr a dyfarnu contractau sydd â gwerth uwchlaw ac islaw trothwyon penodol. Bydd y Ddeddf hefyd yn darparu i'r DU fodloni ei rhwymedigaethau rhyngwladol ar gaffael cyhoeddus. Bydd y Ddeddf yn rheoleiddio'r broses gaffael a bydd ganddi ofynion i sicrhau tryloywder gwell o dan gyfundrefn hysbysu newydd a fydd yn rhychwantu cylch bywyd llawn caffael.

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu manylion a gofynion ychwanegol sy'n angenrheidiol i sicrhau gweithrediad y Ddeddf. Bwriad y Rheoliadau yw:

-      nodi'r gwasanaethau y gellir eu cyflenwi o dan gontract cyffyrddiad ysgafn, gan gynnwys gwasanaethau cyffyrddiad ysgafn neilltuadwy;

-      diffinio “awdurdod llywodraeth ganolog” a “gwaith” at ddibenion y trothwyon yn Atodlen 1 i'r Ddeddf;

-      gosod rheolau ar ddefnyddio’r platfform digidol canolog a phlatfform digidol Cymru ar gyfer cyhoeddi hysbysiadau caffael;

-      darparu ar gyfer ffurf a chynnwys hysbysiadau amrywiol sy'n gysylltiedig â chaffael a chrynodebau asesu;

-      gwneud darpariaethau canlyniadol;

-      ymdrin â chaffael o dan y trothwy; a

-      datgymhwyso adran 17 o’r Ddeddf (hysbysiadau ymgysylltu rhagarweiniol â'r farchnad) i gyfleustodau preifat.

Y weithdrefn

Cadarnhaol.

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.

Materion technegol: craffu

Nodir yr 11 pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn rheoliadau 1 a 2, defnyddir teitl llawn Deddf Caffael 2023 bob tro wrth gyfeirio at y Ddeddf honno. Fodd bynnag, fe’i diffinnir fel “Deddf 2023” yn rheoliad 3 ar gyfer y set gyfan o Reoliadau. Dylai’r term diffiniedig “Deddf 2023” fod wedi cael ei ddefnyddio wrth gyfeirio at Ddeddf Caffael 2023 yn rheoliadau 1 a 2.

2.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn rheoliad 4, yn y term diffiniedig “CA 2006”, yn y testun Saesneg, mae’r diffiniad iaith cyfatebol sy’n ymddangos mewn llythrennau italig a chromfachau ar ôl hynny yn anghywir. Mae’n nodi “Deddf 2006”, ond “DC 2006” yw’r term diffiniedig cyfatebol a ddefnyddiwyd yn y testun Cymraeg.

3.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn rheoliad 4, mae'r term “rheolaeth sylweddol” yn cael ei ddiffinio ar gyfer Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn. Fodd bynnag, dim ond yn rheoliad 12 y defnyddir y term. Felly, dylai fod wedi cael ei gynnwys gyda’r termau a geir yn rheoliad 12(9) sydd wedi’u diffinio ar gyfer y rheoliad hwnnw’n unig – gweler Drafftio deddfau i Gymru, paragraff 4.14(1).

4.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae rheoliad 12(17) yn defnyddio’r ymadrodd “dylanwad sylweddol”, ond nid yw’r ymadrodd hwn wedi’i ddiffinio at ddiben y Rheoliadau. Gofynnir am eglurhad ynghylch pam nad yw ystyr yr ymadrodd hwn wedi'i nodi yn y Rheoliadau.

5.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae rheoliad 13(8) yn defnyddio’r ymadrodd “arfer ar y cyd”, ond nid yw’r ymadrodd hwn wedi’i ddiffinio at ddiben y Rheoliadau. Gofynnir am eglurhad ynghylch pam nad yw ystyr yr ymadrodd hwn wedi'i nodi yn y Rheoliadau.

6.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn rheoliad 13(8)(a), mae’n ymddangos bod cysylltair ar goll rhwng paragraffau (i) a (ii) i ddangos y berthynas rhyngddynt ac a fwriedir iddynt weithredu’n gyfunol neu fel opsiynau ar wahân.

7.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn rheoliad 28(2)(e)(vi), diffinnir y term “person â chyswllt” mewn cromfachau ar ôl i’r term gael ei ddefnyddio ym mharagraff (vi). Mewn deddfwriaeth, mae geiriau mewn cromfachau fel arfer yn ddeunydd diangen i gynorthwyo'r darllenydd. Felly, mae'n anghywir cynnwys deunydd gweithredol fel y diffiniad hwn mewn cromfachau. Dylai fod wedi’i gynnwys mewn darpariaeth ddehongli ar wahân yn rheoliad 28 fel y gwnaed ar gyfer y diffiniadau o “gwybodaeth y lot sy’n dod i ben” a “gwybodaeth sydd wedi ei diogelu” ym mharagraffau (3) a (5) o’r rheoliad hwn. Yn ogystal, nid oes angen cynnwys y diffiniad Cymraeg cyfatebol mewn llythrennau italig a chromfachau ar ôl hynny gan mai dim ond un diffiniad a geir yn hytrach na rhestr o sawl diffiniad.

Rydym hefyd yn nodi rheoliad 41(3), nad yw'n ymddangos ei fod yn cynnwys deunydd gweithredol ond sydd eto wedi'i gynnwys yn y Rheoliadau fel paragraff annibynnol. Dylai'r wybodaeth hon fod wedi cael ei chynnwys mewn troednodyn.

8.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn rheoliad 46(2), mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y geiriau newydd sy’n disodli’r testun presennol, mae’n nodi, “an estimated value equal to or greater than £2,000,000” ond ystyr y testun Cymraeg yw “an estimated value of, or greater than, £2,000,000”. Felly, nid oes gair sy’n cyfateb i “equal to” yn y testun Cymraeg.

9.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn rheoliad 46(3)(b) ac (c), mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, mae'r diffiniadau iaith cyfatebol wedi cael eu cynnwys mewn llythrennau italig a chromfachau wrth nodi'r diffiniad i’w ddiwygio. Ond yn y testun Cymraeg, nid yw'r diffiniadau iaith cyfatebol wedi cael eu cynnwys mewn llythrennau italig a chromfachau wrth nodi'r diffiniad i’w ddiwygio.

Yn hyn o beth, mae'r testun Cymraeg yn dilyn y patrwm arferol a geir yn yr Offerynnau Statudol Cymraeg lle nad yw'r diffiniad iaith cyfatebol fel arfer yn cael ei nodi hefyd wrth nodi diffiniad i’w ddiwygio.

Mae’r un gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg yn codi yn rheoliad 49 lle mae’r testun Saesneg wedi cynnwys y diffiniad iaith cyfatebol wrth nodi’r diffiniad i’w ddiwygio, yn wahanol i’r testun Cymraeg.

10. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau, mae’r “awdurdod perthynol” olaf i Weinidogion Cymru yn y tabl yn cyfeirio at “Cyrff GIG Cymru”. Mae hyn yn cael ei ragflaenu gan gofnod sy'n cyfeirio at “Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a Byrddau Iechyd Lleol Cymru”. Nid yw "Cyrff GIG Cymru" wedi cael ei ddiffinio ac ni ddarperir unrhyw wybodaeth ynghylch sut maent yn wahanol i'r cofnod blaenorol. Byddai eglurhad pellach yn cael ei groesawu o ran beth yw Corff GIG Cymru at ddibenion Atodlen 2.

 

11. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Yn y rhestr o awdurdodau llywodraeth ganolog a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau, cyfeirir at Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Diwygiodd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, fel bod y Comisiwn hwn bellach yn cael ei alw’n Gomisiwn y Senedd. Yn yr un modd, cyfeirir at Gyngor Gofal Cymru. O dan adran 67 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, gelwir y Cyngor hwn bellach yn Gofal Cymdeithasol Cymru.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

12. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Daw'r rhan fwyaf o'r Rheoliadau i rym ar yr un pryd ag y daw adran 11 o'r Ddeddf i rym. Daw adran 11 o’r Ddeddf i rym ar y cyfryw ddyddiad a bennir gan Weinidog y Goron. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod y dull hwn:

yn adlewyrchu'r dull a fabwysiadwyd gan Lywodraeth y DU, a bydd yn osgoi unrhyw risg bosibl o ran diffyg sicrwydd cyfreithiol sy'n gysylltiedig â’r rhain yn dod i rym ar ddyddiadau gwahanol a'r rheoliadau cyfatebol yn Lloegr.    

Gofynnir am ragor o wybodaeth ynghylch a oes unrhyw drafodaethau wedi’u cynnal gyda Llywodraeth y DU ynghylch pryd y daw adran 11 o’r Ddeddf i rym.      

13. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Rydym yn nodi bod Atodlen 1 i'r Rheoliadau yn nodi gwasanaethau iechyd amrywiol fel gwasanaethau cyffyrddiad ysgafn.

Byddem yn ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru egluro sut y bydd y broses o bennu’r gwasanaethau hynny yn rhyngweithio â rheoliadau a wnaed mewn perthynas â chaffael gwasanaethau iechyd o dan Ddeddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phob un o’r pwyntiau adrodd.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

18 Mehefin 2024